YDG Cymru

This content is also available in English

Mae YDG Cymru yn uno arbenigwyr ym mhob maes o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd ag ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru. Mae’r technegau dadansoddi data o’r radd flaenaf a’r rhagoriaeth ymchwil a ddatblygwyd, ynghyd â’r Gronfa Ddata SAIL fyd-enwog, yn caniatáu ar gyfer darparu ymchwil gadarn, ddiogel ac addysgiadol.

Nod y data sy’n cael ei gysylltu a’i ddadansoddi gan YDG Cymru yw mynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yng Nghymru, fel y’u hamlygir yn strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru. Bydd y blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, llesiant, sgiliau a chyflogaeth wrth wraidd gwaith y bartneriaeth, yn ogystal â blaenoriaethau’r llywodraeth sy’n dod i’r amlwg, fel datgarboneiddio.

Bydd gwaith YDG Cymru yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall llawer mwy am y berthynas rhwng gwahanol feysydd darparu gwasanaeth – er enghraifft, y cysylltiad rhwng iechyd a thai – ac i ddeall profiadau pobl yn well wrth iddynt symud trwy wahanol wasanaethau. Bydd hyn, yn ei dro, yn hwyluso’r broses o ddatblygu polisi sydd wedi’i integreiddio’n well i gynorthwyo cenedlaethau’r dyfodol.

Mae YDG Cymru yn ychwanegu at hanes o ddefnyddio dulliau a seilwaith arloesol i gysylltu a dadansoddi data dienw yn ddiogel. Mae dadansoddiadau blaenorol wedi cyfrannu at waith datblygu, monitro a gwerthuso ymyriadau polisi Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau canlynol: Tlodi Tanwydd, cymorth digartrefedd Cefnogi Pobl a’r datblygiad blynyddoedd cynnar Dechrau’n Deg.

Ariennir YDG Cymru yn uniongyrchol am gyfnod cychwynnol o dair blynedd rhwng Gorffennaf 2018 a Gorffennaf 2021 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) gyda chyfran bwrpasol o’r cyfanswm o wedi fuddsoddi yn YDG DU. Am fwy o wybodaeth am sut  Ariennir YDG DU, gweler Amdanom Ni. Gellir gweld mwy o fanylion am y grant a ddyfarnwyd ar Porth i Ymchwil y DU (UKRI) platfform Ymchwil ac Arloesi.

ADR Wales Partners

The ADR UK Partners