Mae ADR UK yn ariannu prosiect ymchwil ynghylch data arloesol i wella bywydau a chynhyrchiant ffermwyr ledled y DU
Categories: Press releases, YDG Cymru, ADR England, Climate & sustainability, Housing & communities, Inequality & social inclusion, World of work
6 October 2020
*This announcement is also available in English.
Mae ADR UK heddiw (6 Hydref 2020) wedi cyhoeddi grant o bron i £600,000 i harneisio potensial data gweinyddol er mwyn deall nodweddion aelwydydd fferm yn well â'r bwriad o wella polisïau'r dyfodol a gwella lles ffermwyr a'u teuluoedd.
Mae'r prosiect AD|ARC (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol) yn bwriadu cysylltu data ledled y DU i greu'r platfform cyntaf ar gyfer data wedi'u dad-ddynodi ledled y DU sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth. Mae'r rhaglen uchelgeisiol yn bwriadu dod â data'r sector cyhoeddus ynghyd ar weithgareddau amaethyddol a defnydd tir â data demograffig, addysgol ac iechyd er mwyn deall y bobl sy'n gweithio yn y sector yn y DU a'u nodweddion diffiniol yn well. Bydd union gynllun y prosiect yn cael ei bennu trwy ymgysylltu'n agos â rhanddeiliaid ffermio ac ymchwilwyr gwyddonol ledled y DU.
Nod AD|ARC yw darparu tystiolaeth a fydd yn helpu'r llywodraeth i ddeall a chefnogi ffermwyr, eu cartrefi a'u cymunedau yn well, a bydd yn cynnwys y gymuned ffermio drwyddi draw wrth ddatblygu cwestiynau ymchwil a dehongli a chyfathrebu canfyddiadau. Y gobaith yw y bydd canfyddiadau'r ymchwil yn llywio gwneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol, gan arwain o bosibl at ymatebion gwell i heriau megis gwella cynhyrchiant, ymateb i bwysau amgylcheddol, cynhyrchu gwell canlyniadau iechyd, a gwella incwm aelwydydd fferm.
Mae AD|ARC yn dwyn ynghyd ymchwilwyr cysylltu data ac arbenigwyr mewn materion amaethyddol â sefydliadau partner gan gynnwys Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA), Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW). Y Prif Ymchwilydd yw Dr Paul Caskie o'r Agri-Food and Bioscience Institute [Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddoniaeth], Gogledd Iwerddon.
Nod y prosiect AD|ARC yw cysylltu data ar weithgareddau amaethyddol a defnydd tir, a gasglwyd ar gyfer Arolwg o Strwythurau Fferm yr UE 2010 â data cymdeithasol-ddemograffig ar gyfer ffermwyr, aelodau aelwyd y ffermwr a gweithwyr fferm. Mae'r ffynonellau data hyn yn darparu adnodd â lefel uchel o gysondeb ledled y DU. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio caffael data am gymhorthdal i ffermydd, trosiant ffermydd, iechyd teulu ffermydd a chyrhaeddiad addysgol. Er na fydd y prosiect yn casglu data newydd, y bwriad yw diweddaru ac ymestyn y casgliad dros amser wrth i setiau data gweinyddol gael eu hadnewyddu. Fel cynllun peilot, bydd y prosiect yn ceisio dod â chymaint o ddata â phosibl ynghyd ar nodweddion y gymuned wledig ehangach yng Nghymru ac archwilio eu haddysg a'u hiechyd.
Bydd yr holl ddata a ddefnyddir yn y rhaglen ledled y DU yn cael eu dad-ddynodi - sy'n golygu bod yr holl ddynodwyr personol wedi'u tynnu. Byddant yn cael eu cynnal mewn amgylchedd diogel a byddant ar gael dim ond i ymchwilwyr achrededig sy'n ymgymryd â phrosiectau cymeradwy, yn amodol ar fesurau rheoli llym ynghylch llywodraethu a datgelu.
Mae hwn yn un o sawl grant cyllid a wnaed gan ADR UK, buddsoddiad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sy'n ceisio trawsnewid y ffordd y mae ymchwilwyr yn cyrchu'r cyfoeth o ddata gweinyddol a grëwyd eisoes gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus ledled y DU. Gwnaethpwyd yr argymhelliad i ariannu'r AD|ARC gan Fwrdd Comisiynu Ymchwil (RCB) ADR UK.
Meddai Dr Paul Caskie, Prif Ymchwilydd AD|ARC: “Mae ffermio yn y DU yn sail i ddiogelwch bwyd y genedl, yn cynhyrchu buddion economaidd ac yn llunio tirwedd gyfoethog ac amrywiol. Yn yr un modd, mae teuluoedd ffermio, sy'n byw yn yr un lleoliad yn aml dros genedlaethau lawer, yn hanfodol i gyfansoddiad cymdeithasol ardaloedd gwledig. Mae ffermio ar groesffordd yn y DU o ganlyniad i Brexit a chael gwared ar bolisïau a weithredir o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE yn raddol.
“Mae'r buddsoddiad AD|ARC yn gam sylweddol i ddeall yn well sut y gellir gwasanaethu a chefnogi pobl sy'n gweithio yn y sector, yn arbennig teuluoedd fferm. Bydd AD|ARC yn canolbwyntio ar elfen ddynol y sector pwysig hwn o economi'r DU. Trwy gysylltu a dadansoddi - mewn ffordd sensitif a diogel - y data presennol o nifer o ffynonellau, gallwn ni helpu i amlygu ble mae polisïau i gynorthwyo'r sector yn cael eu cyflwyno'n fwyaf effeithiol.
“Bydd AD|ARC yn creu canolfan ddata er mwyn galluogi cynhyrchu tystiolaeth newydd i gefnogi polisi sy’n effeithio ar ffermio, ffermwyr ac aelwydydd ffermio am flynyddoedd i ddod.”
Wrth gyhoeddi cyllido AD|ARC, dywedodd Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr ADR UK: “Fel prosiect mawr cyntaf ADR UK sy’n edrych ar y sector ffermio, a’r cyntaf i gynnwys pedair cenedl y DU yn wirioneddol, rwy’n llawn cyffro am botensial enfawr AD|ARC i wella bywydau ffermwyr a chynhyrchiant amaethyddol ledled y wlad.
“Mae data gweinyddol - fel sy'n wir ar gyfer pob sector arall o gymdeithas - yn offeryn gwerthfawr ar gyfer ffurfio gwell dealltwriaeth o fywydau ffermwyr a’u cyfraniad hanfodol i gymdeithas y DU. Nawr yn fwy nag erioed, ag effaith ymadawiad y DU o'r UE ac effeithiau tymor hir y pandemig Covid-19 ar y gorwel, dyma'r amser i ddefnyddio'r cyfoeth presennol hwn o ddata. Trwy gysylltu ffynonellau data perthnasol o bob cwr o’r wlad a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer ymchwil, gallwn ni wella dealltwriaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau o’r ffordd orau o sicrhau bod diwydiant ffermio’r DU, a’r bobl sydd wrth ei wraidd, yn cael eu cefnogi i ffynnu.”