Mae adroddiad newydd yn rhoi argymhellion ar wneud gwell defnydd o ddata i lywio cyfarwyddyd gyrfaoedd yng Nghymru

Categories: Research findings, ADR Wales, YDG Cymru, World of work

12 October 2022

Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwilwyr YDG Cymru i gynnal astudiaeth i archwilio’r cyd-destun polisi a deddfwriaethol y mae’r darparwr gyrfaoedd cenedlaethol, Gyrfa Cymru yn gweithredu ynddo, defnyddioldeb daliadau data Gyrfa Cymru a sefydliadau eraill, a’r posibilrwydd o rannu data i gefnogi amcanion a gwasanaethau Gyrfa Cymru a chynyddu budd cyhoeddus o’r gwasanaeth.

Sylwch mai barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad ac nid o reidrwydd barn Llywodraeth Cymru.

Mae Gyrfa Cymru, a ffurfiwyd yn 2013, yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau gyrfaoedd annibynnol a diduedd i bob oed yng Nghymru. Gan weithio gyda phartneriaid mae Gyrfa Cymru'n cefnogi ysgolion i ddarparu addysg a gwasanaethau gyrfaoedd, ymgysylltu â chyflogwyr a cholegau, yn ogystal â darparu cymorth i raglenni cyflogaeth Llywodraeth Cymru megis Cymru’n Gweithio, ReAct+ a rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Darperir cylch gwaith a chyllid Gyrfa Cymru bob blwyddyn gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd yr astudiaeth fel rhan o Astudiaeth Dichonoldeb Cysylltu Data Gyrfa Cymru Llywodraeth Cymru a defnyddiodd gyfuniad o ymchwil desg a chyfweliadau i roi darlun o ddarparwr y gwasanaeth a sut y gall ddatblygu ei ddefnydd o ddata gweinyddol cysylltiedig.

Roedd yr ymchwil a arweiniwyd gan ymchwilydd YDG Cymru, Dr Katy Huxley, yn ystyried polisïau cyflogadwyedd a sgiliau yng Nghymru, yn arbennig y Cynllun Cyflogadwyedd, y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a’r Warant Pobl Ifanc, ac amcanion strategol Gyrfa Cymru i nodi anghenion data Gyrfa Cymru sydd yn cyflawni amcanion ac yn cyfrannu at ymyriadau polisi ehangach.

Archwiliwyd y cyd-destun deddfwriaethol ar lefel lywodraethu Cymru, y DU ac Ewrop fel paramedrau dylanwadol wrth rannu data a mynediad at ddata. Archwiliwyd y posibilrwydd o gysylltu ffynonellau data allanol â data Gyrfa Cymru a datblygu hyb gwybodaeth data i wella’r broses o ddarparu polisi cyhoeddus a darparu gwasanaethau gwell.

Ymdriniwyd â chwe chwestiwn ymchwil:

  • Pa anghenion data a grëir gan bolisi sefydliadol a chenedlaethol?
  • A yw, neu a all, daliadau data Gyrfa Cymru a phartneriaid ddiwallu'r anghenion hyn?
  • Beth yw'r cyd-destun deddfwriaethol ar gyfer rhannu data gweinyddol?
  • A oes materion cyfreithiol, preifatrwydd neu faterion neu risgiau eraill sy'n atal cysylltu data?
  • Beth yw'r manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhannu data?
  • Beth, os o gwbl, yw'r dulliau ymarferol o wella'r defnydd o ddata ac effeithiolrwydd?

Edrychodd yr astudiaeth ar y llwybrau cyfreithiol ar gyfer mynediad at ddata, y data sydd ar gael, ac anghenion Gyrfa Cymru a phartneriaid a daeth i’r casgliad y byddai buddsoddiad pellach yn asedau data Gyrfa Cymru a chysylltiadau yn galluogi gwell defnydd o ddata cwsmeriaid, a data gweinyddol arall, i fonitro a gwella darpariaeth, canlyniadau, a gwerthuso gwasanaethau.

Mae’r adroddiad yn awgrymu nifer o strategaethau y gellid eu dilyn i gefnogi hyn, gan gynnwys datblygu hyb gwybodaeth data i gynorthwyo rhaglenni cymorth cyflogadwyedd o fewn Awdurdodau Lleol.

Dywedodd Dr. Katy Huxley, swyddog ymchwil YDG Cymru, “Nod ein gwaith ar draws buddsoddiad ADR DU ac YDG Cymru yw amlygu manteision defnyddio data gweinyddol dienw cysylltiedig. Gan adeiladu ar y profiad hwnnw, mae’r adroddiad hwn yn ystyried y defnydd o ddata gweinyddol yn fewnol o fewn Gyrfa Cymru i wella darpariaeth a gwerthuso gwasanaethau. Mae’r argymhellion hyn yn darparu ystod eang o ymyriadau a allai helpu i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o fewn Gyrfa Cymru ond hefyd y gellid eu defnyddio’n ehangach gan sefydliadau partneriaeth sy’n ymwneud â darparu cymorth cyflogadwyedd.”

Cafodd adroddiad Llywodraeth Cymru ei gynnal gan academyddion Sgiliau a Chyflogadwyedd YDG Cymru, Dr Katy Huxley a Rhys Davies.

Mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad ADR DU ledled y DU a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), rhan o UKRI. Mae'n uno arbenigedd ymchwil o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac WISERD ag ystadegwyr, economegwyr ac ymchwilwyr cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae tîm YDG Cymru yn cynnwys academyddion blaenllaw sydd ag arbenigedd yn y materion blaenoriaethol sy'n wynebu'r genedl, fel y nodir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-2026. Mae’r arbenigedd hwn yn cyd-fynd â’r angen o fewn y llywodraeth, y trydydd sector a chyrff cyhoeddus am fewnwelediadau amserol wedi’u llywio gan ddata i sicrhau bod penderfyniadau polisi ar gyfer pobl Cymru yn cael eu gwneud yn y ffordd fwyaf effeithiol a gwybodus.

Mae YDG Cymru wedi bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i archwilio sut y gellir defnyddio’r data y mae’n eu casglu i roi mewnwelediad newydd i wahanol amgylchiadau a galluoedd ei gleientiaid i helpu i lywio gwelliannau yn y modd y darperir gwasanaethau.

Mae manylion llawn yr adroddiad yma.

Share this: